Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Tŷ Mawr

Tŷ Mawr

Adeiladwyd Tŷ Mawr, yng nghanol y lluniau hyn, yn 1725 i Syr George Wynne o Goedllai, er mwyn iddo allu mwynhau cwmni ei ffrindiau yn y dref. Aelod o deulu bonheddig lleol oedd George Wynne, a wnaeth gyfoeth mawr ar ôl darganfod plwm ar ei dir yn Helygain, a ellid ei gloddi'n hawdd o'r ddaear. Am ychydig, hyd nes iddo golli ei holl arian i gyd, ef oedd yr aelod mwyaf blaenllaw'r Gymdeithas leol. Saif ei dŷ lle mae Boots bellach wedi'i leoli. Bu yno tan tua'r 1960au ond mewn cyflwr gwael. Yn ôl straeon lleol roedd lloriau pren y llawr gyntaf wedi camu oherwydd pwysau'r aur a storiwyd yno!