Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Terfysgoedd yr Wyddgrug

Terfysgoedd yr Wyddgrug

Terfysg Yr Wyddgrug

Cafodd pedwar o bobl eu saethu'n farw yma ar 2 Mai 1869. Terfysgwyr oedd tri ohonynt, ac un person oedd yn gwylio, a gafodd ei saethu gan hebryngwr milwrol oedd yn ceisio dwyn dau garcharor o'r llys i'r orsaf. Ar y pryd roedd yr orsaf yn sefyll lle mae archfarchnad TESCO yn awr, a gellir ei weld yn y llun hwn o'r digwyddiad o'r London Illustrated News. Fe'i gelwid yn Derfysgoedd Yr Wyddgrug, ond cododd y cythrwfl ym mhyllau glo Coedllai tua thair milltir y tu allan i'r dref. Beiwyd y gyfundrefn garw o dan John Young, y rheolwr tanddaearol, ond hefyd roedd ffrwydrad poblogaeth, mewnlifiad o lowyr a rheolaeth o dros y ffin, a diffyg rheolau mwyngloddio hefyd yn ffactorau. Roedd y ddau garcharor wedi arwain ymgais gynharach i herwgipio a diarddel Young. Cafodd pump o ddynion, a ystyriwyd fel yr arweinwyr y terfysgoedd, eu dedfrydu, yn ddiweddarach, i ddeng mlynedd o garchar. Credir mai olion bwledi yw'r marciau ar wal y Llys.

Terfysgoedd yr Wyddgrug