
Yr Hen Lys Barn heddiw. 
Heddlu Sir y Fflint y tu allan i hen Lys Barn Yr Wyddgrug tua 1920. 
Heddlu Sir y Fflint y tu allan i hen Lys Barn Yr Wyddgrug tua 1930.
Yr Hen Lys neu Neuadd y Sir
Adeiladwyd yr Hen Lys, sydd bellach yn wag, ym 1834, i'w ddefnyddio mewn lle adeilad a oedd yn sefyll ar y Groes lle saif banc Lloyds heddiw. Cyn yr amser yma, roedd y prif lysoedd barn yn ogystal â gweinyddiaeth Sir y Fflint yn gweithredu o Dreffynnon a'r Fflint yn ogystal â'r Wyddgrug. Wrth adeiladu'r adeilad hwn roedd gan Yr Wyddgrug yr hawl i fod yn Dref Sirol!
Yn anffodus, roedd siafftiau Pwll Glo Tref yr Wyddgrug yn agos iawn i'w safle, ac roedd gwaith cloddio'n tanseilio sylfeini'r adeilad yn ddifrifol. O'r herwydd bu'n rhaid ailfodelu'r llys ym 1880. Cynhaliwyd Llysoedd Chwarter a'r Brawdlysoedd yma. Daeth yr ardal yng nghefn yr adeilad, a elwir yn Faes Neuadd y Sir yn le i farics i'r fyddin a swyddfeydd ar gyfer Cyngor Sir y Fflint. Roedd cerflun Daniel Owen, sydd bellach yn y sgwâr sy'n dwyn ei enw, hefyd yma. Symudodd y Cyngor Sir a'r llysoedd i'r ganolfan ddinesig y tu allan i'r dref yn y 1960au a'r 70au.