
Lle geni Daniel Owen yn Maes y Dre, Yr Wyddgrug. Mae lleoliad ei dŷ wedi'i marcio gan gofeb llechi. 
Daniel Owen tra'n fyfyriwr yng Ngholeg Diwinyddol y Bala. 
Yma mae gweithwyr Daniel Owen yng nghefn y siop teilwra yn Y Stryd Newydd (nawr yn y dafarn Pentan). 
Un o'r ffotograffau prin o Daniel Owen (ar y chwith uchaf) gyda grŵp o'i gydweithwyr, tua 1860. 
Daniel Owen yn ddiweddarach. Yr oedd newydd droi 59 pan fu farw ar 22 Hydref 1895. 
Siop deiliwr a brethyn Towyn Jones, Stryd Newydd, Yr Wyddgrug lle roedd siop Daniel Owen gynt. 
Siop Towyn Jones. Roedd siswrn yr awdur enwog yn cael eu arddangos yma ond maent bellach yn amgueddfa'r dref. Mae 'Siop y Siswrn' ar draws y ffordd wedi'i enwi i'w cofio. 
Cae'r Ffynnon a adeiladwyd gan Daniel Owen o enillion ei nofel "Rhys Lewis" ar draws y ffordd i'w fan geni. Doedd ond yn byw yno am gyfnod byr. 
Siop Daniel Owen. Mae bellach yn rhan o dafarn y Pentan. 
Y garreg goffa i nodi man geni Daniel Owen ym Maes y Dre, Yr Wyddgrug. Fe'i gosodwyd yno yn 1951. 
Bedd Daniel Owen, Mynwent yr Wyddgrug. Fe'i claddwyd yno gyda'i fam, ei chwaer a'i frawd.
Daniel Owen (1836-1895) oedd y nofelydd cyntaf i ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg. Doedd dim traddodiad o ysgrifennu ffuglen o'r math hwn yn yr iaith Gymraeg cyn i'w nofelau gael ei cyhoeddi. Mae yna lawer o atgofion amdano yn ei dref: cerflun; sgwâr; canolfan gymunedol, ac ati. Roedd ei lyfrau yn boblogaidd bron ar unwaith a ledled Cymru.
Cafodd ei eni i deulu mwyngloddio. Pan oedd yn saith mis oed, bu farw ei dad a'i dau o'i frodyr hynaf, yn dal i blant, mewn damwain pwll. Roedd ei deulu yn ei chael hi'n anodd ac roedd yn rhaid i'w fam gymryd gwaith golchi dillad i gadw dau ben llinyn ynghyd. Bu'n lwcus, yn 14 oed, i gael ei brentisiaeth mewn siop ddillad , gan ddysgu teilwra mewn siop leol, yno trafodwyd crefydd, gwleidyddiaeth a materion cyfoes. Gelwid y siop ar lafar yn Senedd yr Wyddgrug! Bu Daniel Owen yn bregethwr, yn wleidydd lleol, ac yn ddyn busnes llwyddiannus a phan dorrodd ei iechyd, gydag anogaeth eraill, trodd at ysgrifennu.
Roedd mor boblogaidd, ac mor bwysig yn nhraddodiad llên Gymreig, codwyd cerflun iddo gyda thanysgrifiad arian lleol o fewn deng mlynedd o'i farwolaeth.
Cofnodiad digidol o'r Emyn Gymreig "O Fryniau Caersalem" a ganwyd gan y Pedwarawd Cymreig tua 1908. Fe ganwyd yr emyn wrth fedd Daniel Owen yn ystod ei gladdedigaeth ym 1895.