

Richard Wilson 
Richard Wilson (1713 i 1782) bedd yn iard Eglwys y Santes Fair Yr Wyddgrug
Richard Wilson yr artist
Cafodd Richard Wilson (1713 i 1782) ei eni yng nghanolbarth Cymru a'i ddisgrifio fel 'tad peintio tirluniau Saesnig' a'r 'peintiwr mwyaf nodedig mae Cymru wedi ei gynhyrchu'.Dechreuodd Richard fel peintiwr portreadau yn Llundain ond talodd perthynas, tirfeddiannwr cyfoethog o'r Wyddgrug, ei gostau tra iddo fod yn dysgu peintio tirluniau yn yr Eidal. Pan ddychwelodd canolbwyntiodd ar waith yn ymwneud â golygfeydd Prydeinig, rhai ohonynt yn lleol, a daeth yn enwog ac yn ddylanwadol. Yn anffodus, fe newidiodd ffasiwn yn y maes, a chafodd drafferth cadw dau ben llinyn ynghyd. Rhoddwyd cymorth iddo gan ei ffrindiau a daeth yn un o aelodau cyntaf a sylfaenydd o'r Academi Frenhinol a bu'n llyfrgellydd am gyfnod. Dychwelodd yn ôl i'r ardal mewn gwaeledd, a bu farw yng nghartref perthynas yn Loggerheads gerllaw. Fe'i claddwyd ym mynwent y Santes Fair yn Yr Wyddgrug.