Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

John Ambrose Lloyd

Ganwyd John Ambrose Lloyd ar 14eg Mehefin 1815 yn y Stryd Fawr, Yr Wyddgrug. Mae'r tŷ lle cafodd ei eni bellach yn safle banc Barclays, ond cofnodir yr enedigaeth gan blac ar y wal:

YN Y HWN Y GANWYD
JOHN AMBROSE LLOYD
1815-1874
CERDDOR A CHYFANSODDWR

"Yn y tŷ hwn, enwyd John Ambrose Lloyd ( 1815-1874), cerddor a chyfansoddwr"

Y trydydd mab i Enoch a Catherine Lloyd, gadawodd y teulu'r Wyddgrug ym 1830, gyda John yn ymuno â'i frawd Isaac, athro yn Lerpwl. Mynychodd John Gapel y Tabernacl yno, gan ffurfio côr gan ddilyn ei ddiddordeb mawr mewn cerdd. Fe ddechreuodd gyfansoddi emynau ac ysgrifennodd yr alaw enwog 'Wyddgrug' yn 16 oed, mewn teyrnged i dref ei enedigaeth. Yn 28 mlwydd oed cyhoeddodd ei lyfr cyntaf Casgliad o Donau.

Bu'n dysgu yn y Sefydliad Mecaneg a sefydlodd cymdeithas Liverpool Welsh Choral. Ym 1847 gadawodd John Lerpwl a daeth yn Rheolwr Gogledd Cymru ar gyfer Woodall a Jones, masnachwyr te ac arhosodd gyda hwy am weddill ei oes. Yn 1864 symudodd o Gaer i Rhyl gan sefydlu Cymdeithas Gorawl Amatur y Rhyl.

Parhaodd i ysgrifennu caneuon emynau ac anthemau, ac yn 1873 cyhoeddodd ei ail gasgliad o emynau a thonau dan y teitl Aberth Moliant, cynnwys hwn 726 emyn a 344 o alawon, ac ysgrifennwyd 47 gan Ambrose Lloyd ei hun. Yn dilyn mordaith i'r Aifft am resymau iechyd, dychwelodd i Lerpwl ar 11 Medi 1874 a bu farw yn fuan wedyn ar 14 Tachwedd 1874 yn 59 oed.

Yn ystod ei oes roedd ei allbwn yn rhyfeddol ac yn cynnwys 92 o emynau gan gynnwys: Alun, Bridport, Cromer, Downing, Eifionydd, Groeswen, Henryd, Mary, Y Rhyl, Witford, ac Wyddgrug. Yn ogystal, mae 28 Anthem, Caneuon Rhan 2; 3 cantatas a 2 gasgliad o emynau a gyhoeddwyd. Daw'r darn hwn o bapur a gynhyrchwyd gan Dr Goronwy Wynne a'i gyhoeddi yn rhifyn Nadolig 2003 o Gymdeithas Ddinesig yr Wyddgrug "Ystrad Alun".