
Billy Meredith - y Seren Pêl-droed Cyntaf.
Billy Meredith a aned yn Y Waun ym mis Gorffennaf, 1894, yw mab enwocaf y Waun. Roedd yn aelod o dîm Clwb Pêl-droed y Waun a enillodd Gwpan Cymru yn 1894 ac yn 'Ddewin yr Asgell' i Northwich Victoria, Manchester City a Manchester United a Chymru. Cafodd Meredith ei gapio 48 gwaith i Gymru, oedd yn record bryd hynny, gan sgorio 10 gôl, ac roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Undeb y Chwaraewyr. Ymddangosodd mewn dros 650 o gemau i ddau glwb Manceinion. Ei gêm derfynol oedd ymddangosiad yn Rownd Cyn-derfynol Cwpan F A 1924 i Manchester City - yn 50 oed! Pryd hynny roedd cae pêl-droed y Waun mewn cae y tu ôl i Westy'r Hand. Dadorchuddiwyd Carreg Goffa i Billy ar wal y parc gerllaw yn 2002.