
Roedd yr hanesydd lleol Neville Hurdsman yn wreiddiol o Groesoswallt ond daeth i'r Waun yn 1948. Roedd ei ddiddordeb yn hanes Y Waun yn mynd yn ôl i ddechrau'r 1950au pan ddechreuodd ymchwilio a chofnodi hanes ei bentref mabwysiedig.
Ei lyfr “A History of the Parish of Chirk” yw'r prif lyfr cyfeiriol y mae pentrefwyr â diddordeb yn hanes y lle yn troi ato.
Roedd Neville, fel yr adnabyddid o, yn siaradwr amlwg a phoblogaidd mewn cymdeithasau lleol ac roedd bob tro'n fodlon i ddod draw a rhoi darlithoedd diddorol, llawn gwybodaeth am wahanol agweddau o fywyd lleol.