North East Wales Trails

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r bwysicaf o nifer o eisteddfodau a gynhelir yn flynyddol, yng Nghymru yn bennaf.

Dywed Amgueddfa Genedlaethol Cymru y gellir olrhain hanes yr Eisteddfod yn ôl i gystadleuaeth farddol a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi yn 1176, ond mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru, fel sefydliad, yn olrhain ei hanes i’r digwyddiad cyntaf un a gynhaliwyd yn 1861 yn Aberdâr. Mae’r wyth diwrnod o gystadlaethau a pherfformio yn creu’r ŵyl gerddoriaeth a barddoniaeth fwyaf yn Ewrop.
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod wythnos gyntaf Awst yn draddodiadol, a chynhelir yr holl gystadlaethau yn Gymraeg.
Mae blas rhannol dderwyddol i’r ŵyl, gyda’r prif wobrau llenyddol am farddoniaeth a rhyddiaith yn cael eu cyflwyno mewn seremonïau lliwgar a dramatig, dan nawdd Gorsedd y Beirdd, ynghyd ag unigolion blaenllaw ym mywyd diwylliannol Cymru, wedi eu gwisgo yn nillad yr Orsedd, gyda dawns flodau, caniad y cyrn a’r Corn Hirlas symbolaidd.
Mae’r Eisteddfod yn symud rhwng lleoliadau yng ngogledd a de Cymru yn flynyddol, gyda channoedd o stondinau, pafiliynau a phebyll yn cael eu gosod mewn gwagle agored i ffurfio’r Maes.