Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Cyfrifiad Tloty Undeb Corwen 1881

Yng Nghyfrifiad 1881, roedd 51 o drigolion yn y Wyrcws, gan gynnwys 1 lloerig, 5 ynfytyn ac 1 diniweityn.

Y Meistr oedd Edward Williams, 52 oed a'i wraig Grace, 52 oed, oedd Matron. Cafodd y ddau eu geni yng Nghorwen. Hefyd roedd cynorthwy-ydd i'r Matron, 21 oed. Roedd 4 crwydryn wedi'u rhestru o Iwerddon, Wolverhampton a Lincoln.
Roedd y person hynaf yn ddyn 75 oed ac roedd yr holl oedolion yno naill ai'n ddi-briod neu'n weddw.
Roedd 10 o blant, gan gynnwys babi 3 mis oed, ond ychydig iawn ohonynt oedd ag unrhyw rieni.
Roedd hwn yn adeg pan nad oedd tâl salwch, pensiwn na gwasanaethau meddygol am ddim, a'r wyrcws oedd yr unig loches i'r sâl a'r henoed nad oedd ganddynt deulu i'w cefnogi. Roedd hefyd yn gartref i ferched ifanc di-briod a syrthiodd yn feichiog. Roedd bywyd y tloty yn anodd ond roedd anghenion sylfaenol bywyd yn cael eu diwallu.

Cyfrifiad Tloty Undeb Corwen 1881