Chwiliwch am y poplys duon godidog, sef coed brodorol prinnaf Ynysoedd Prydain.
Mae'r pren ysgafn yn wydn iawn ac roedd yn ddelfrydol ar gyfer creu tariannau a cherbydau a deithiai ar hyd ffyrdd anwastad. Defnyddiwyd canghennau'r coed hyn i wneud fframiau ond yn raddol daeth coed conwydd egsotig, a dyfai'n gyflym, yn fwy poblogaidd. Heddiw, mae gogledd-ddwyrain Cymru yn gartref i tua 200 o'r coed, sef 10% o boblogaeth y coed ar Ynysoedd Prydain i gyd.

