
Taith 1: Crwydro Lonydd Hynafol Rhuddlan.
Disgrifiad:
Golygfeydd bendigedig o Fryniau Clwyd a'r Dyffryn. Mae'r cerdded i gyd ar ffyrdd a lonydd. Mae rhai o'r lonydd yn gul, felly mae gofyn cymryd mwy o ofal pan fydd ceir yn pasio. NODER - ANWYBYDDWCH BOB ARWYDD LLWYBR TROED. Os byddwch yn ymweld â Twtil, mae'n ddringfa serth, felly cymerwch ofal.
Taith hirach oddeutu 6.5 milltir Neilltuwch oddeutu 3 awr
Taith fyrrach oddeutu 5.6 milltir Neilltuwch oddeutu 2 awr a hanner
DECHRAU’R DAITH:
Cerddwch yn ôl at fynedfa'r maes parcio; trowch i'r DDE ar COETIAU POSTOL ac at y BRIFFORDD (FFORDD RHYL). Trowch i'r DDE a chroeswch y groesfan belican. Trowch i'r DDE ac yna i'r CHWITH ar FFORDD Y TYWYSOG. Daliwch i gerdded ar hyd FFORDD Y TYWYSOG at STRYD Y CASTELL ar y dde.
Gwybodaeth:
Oedwch gyferbyn â Stryd y Castell i edrych ar Gastell Normanaidd Edward 1af a ddechreuwyd ym 1277. Yr adeilad ar y chwith ichi ydy'r Tŷ Gwledda, a oedd o bosib yn elusendy sy'n dyddio o 1672.
Daliwch ymlaen i gerdded ar hyd FFORDD Y TYWYSOG, sy'n newid enw i fod yn FFORDD DYSERTH, er mwyn cyrraedd yr A5151.
Gwybodaeth: 50 metr cyn yr A5151 ar y dde, ceir bwrdd gwybodaeth sy'n rhoi manylion 'SAFLE'R RHUDDLAN SACSONAIDD’. (Ceir disgrifiad yn Nhaith Gerdded rhif 3)
Trowch i'r DDE ar yr A5151, y brif ffordd i DYSERTH. Daliwch ymlaen i gerdded ar hyd yr A5151 gan ddiystyru'r troad 1af ar y dde gyda'r arwydd Rhuallt B5429. Ewch heibio SPITAL HALL ar yr ochr dde a chymerwch y troad nesaf i'r DDE wedi'i arwyddo CWM. Dilynwch y ffordd hon gan ddiystyru'r gyffordd-T sydd wedi'i farcio 'B' ar y map a cherddwch tuag at y GROESFFORDD.
Ar gyfer y ddwy daith - yn y GROESFFORDD trowch i'r DDE tuag at WAEN.
TAITH FER – cymerwch y ffordd nesaf ar y dde sydd wedi'i farcio 'A' ar y map. Cerddwch at ben y ffordd at y GYFFORDD-T sydd wedi'i farcio 'B' ar y map. Trowch i'r CHWITH a cherddwch at yr A5151. Trowch i'r chwith ar FFORDD DYSERTH. Dilynwch eich camau yn ôl at y bwrdd gwybodaeth sy'n rhoi manylion 'SAFLE'R RHUDDLAN SACSONAIDD'.
TAITH HIR – Diystyrwch y ffordd ar y dde (ar gyfer y daith fer sydd wedi'i farcio 'A') a dilynwch y ffordd hon wrth iddi igam-ogamu i'r chwith ac yna i'r dde. Daliwch ymlaen at y GYFFORDD-T sydd wedi'i farcio 'C' ar y map. Trowch i'r DDE ar y B5429 i RUDDLAN a dilyn y ffordd hon heibio ‘DWYLIG ISA’ ar y chwith..
TAITH HIR - Gwybodaeth:
Ar hyd y ffordd hon cadwch olwg allan am groes hynafol ar y chwith gyferbyn â CRICCIN BACH. Stwmpyn bellach ydy CROES CRICCIN, sef gweddillion croes wythochrog o'r 13eg/14eg ganrif, yn sefyll ar yr hyn y credir ydy twmpath naturiol. Mae'n bosib ei bod yn nodi hen ffin yn ymwneud â bwrdeistref Edwardaidd Rhuddlan. Edrychwch tua'r chwith am olygfeydd o GASTELL RHUDDLAN.
TAITH HIR - Daliwch ymlaen i gerdded at y GYFFORDD-T ar yr A5151 ac yna troi i'r CHWITH a cherdded tuag at RHUDDLAN. Cymerwch y troad 1af ar y CHWITH ichi at FFORDD DYSERTH, gan basio heibio'r bwrdd gwybodaeth gyda manylion 'SAFLE'R RHUDDLAN SACSONAIDD’.
Y DAITH FER A'R DAITH HIR – Ewch ymlaen o'r bwrdd gwybodaeth gan gerdded ar OCHR CHWITH y ffordd am oddeutu 500 metr hyd nes ichi gyrraedd FFORDD YR ABATY ar y chwith ichi. (Os byddwch wedi cyrraedd Stryd y Castell ar eich chwith, rydych wedi dod yn rhy bell. Ewch yn ôl). Cerddwch rhyw ychydig bach ar hyd FFORDD YR ABATY a chymryd y troad 1af i'r DDE ar LÔN HYLAS. Wrth fynd ar hyd LÔN HYLAS, fe basiwch dŷ brics coch ar y DDE ichi o'r enw 'MONFA'.
Gwybodaeth:
Man Geni Phillip Jones Griffiths 1936 - 2008
Ffotonewyddiadurwr byd-enwog
Daliwch ymlaen ar hyd LÔN HYLAS i basio YSGOL Y CASTELL a THŶ TO GWELLT. Fe welwch arwydd am TWTIL ar y chwith - dyma safle castell tomen a beili a adeiladwyd ym 1073. Mae'n werth ymweld os mai dim ond ar gyfer y golygfeydd yn unig.
Wedi'r arwydd am TWTIL fe welwch GASTELL RHUDDLAN a bwrdd gwybodaeth "Crwydro Rhuddlan". Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Castell Rhuddlan ym 1277, un o gylch o gestyll a adeiladodd Edward 1af i geisio darostwng y Cymry. Yn y GYFFORDD-T tu allan i GASTELL RHUDDLAN, trowch i'r CHWITH ar STRYD Y CASTELL a cherddwch at y STRYD FAWR / CANOL Y DREF gan basio ' YR HEN YSGOL - YR YSGOL GENEDLAETHOL 1829' sydd ar y chwith ichi cyn cyrraedd y Stryd Fawr (edrychwch yn ôl i weld yr arwydd).
Gwybodaeth:
Yn STRYD YR EGLWYS, ar draws y ffordd, mae EGLWYS Y SANTES FAIR a adeiladwyd yn oddeutu 1300. Ewch i mewn trwy'r porth mynwent Fictoraidd. Mae'n werth mynd yno. Ar y dde, hanner ffordd i fyny'r Stryd Fawr, ar gornel Stryd y Senedd, mae'r Senedd-dŷ, gydag arysgrif ar y wal yn nodi Statud Rhuddlan. Dywedir mai dyma weddillion yr adeilad lle pasiodd Edward 1af‘ Statud Rhuddlan' a barodd hyd at Ddeddfau Uno 1536-1542. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol o fod yn Lys Barn canoloesol gyda rhannau wedi'u cymryd o'r castell.
Crwydrwch i fyny'r STRYD FAWR i ganol RHUDDLAN, gan basio siopau, caffis a thafarndai. Ymlaciwch a mwynhewch ychydig o luniaeth.
Daliwch ymlaen trwy'r dref er mwyn dychwelyd at ddechrau'r daith - trowch i'r CHWITH ar COETIAU POSTOL ac yna i'r CHWITH i faes parcio'r llyfrgell.
Gobeithio ichi fwynhau eich taith - mae croeso ichi adael eich sylwadau.
.