
Castell Rhuddlan 
Eglwys Santes Fair 
Llechen y Senedd 
Tŷ Gwledda 
Tŷ y Senedd 
Tomen Twthill 
Clwyd yr Eglwys 
Hylas Bach
Yn unol â'n harwyddair "Gwella ein Cymuned", mae Grŵp Cymunedol Rhuddlan wedi cwblhau 'Wyth Taith Gerdded', yn cychwyn a diweddu yn Rhuddlan. Nod y prosiect ydy denu ymwelwyr i'n tref ac annog pobl leol i ddefnyddio a chynnal presenoldeb yr "Hawliau Tramwyo" yng nghefn gwlad. Rydyn ni wedi nodi'r teithiau cerdded hynny sy'n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a/neu feicwyr. Mae'r teithiau bellach yn barod i bawb eu mwynhau ac maen nhw wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan Facebook. Ei gobaith ydy y byddwch yn mwynhau pob un ohonyn nhw -
mae croeso ichi adael eich sylwadau ar ein safle Facebook. (dolen gyswllt)
Fel tref wedi'i lleoli ger croesfan hynafol ar yr Afon Clwyd, yn cynnig mynediad rhwydd i Gymru, mae Rhuddlan wedi hen arfer â bod yn safle strategol yn y brwydro oesol fu rhwng y Cymry a'r Saeson. Ym 1073, adeiladwyd castell tomen a beili ar Twtil, safle llys Gruffydd ap Llywelyn, Brenin Cymru, yn ôl y sôn. Yn ddiweddarach, sefydlwyd castell gerllaw - un o gyfres neu gylch o gestyll a adeiladwyd fel rhan o gynllun concwest Cymru gan y Brenin Edward 1af. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1277 a'i gwblhau ym 1281. Cynhaliodd Edward senedd yn Rhuddlan ym 1284, lle lluniwyd 'Statud Rhuddlan'. Darniwyd y castell wedi iddo gael ei gipio gan luoedd y Brenhinwyr ym 1646, dan arweiniad y Cadfridog Mytton. (1)
Mae pob taith yn cychwyn yn maes parcio Y Llyfrgell ,a map i bob taith (nid i raddfa) a oedd yn gywir ar adeg eu cyhoeddi. Byddwch yn ymwybodol bod newidiadau i lwybrau ayyb wedi gallu digwydd ers hynny.
Fedrwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad a all ddigwydd, na'r canlyniadau.
Argraffiad 1af, Gorffennaf 2018
Cyfeiriadau: (1) North Wales Coast gan David Berry
Dilynwch reolau cefn gwlad trwy:-
Gadw cŵn dan reolaeth
Diogelu planhigion ac anifeiliaid
Cymryd eich sbwriel gyda chi
Gadael y giatiau fel y maen nhw
Dilynwch arwyddion
Cymryd gofal yng nghwmni da byw
Gadewch ddim ond ôl eich traed.
Cydnabyddiaethau:
Mae'r awduron yn cydnabod y wybodaeth a gafwyd o fyrddau gwybodaeth Cyngor Tref Rhuddlan a thaflenni "Darganfod Sir Dinbych" gan Gyngor Sir Ddinbych ac yn diolch i deuluoedd a ffrindiau a roddodd gyngor ynghylch y cyhoeddiad hwn. Hoffwn ddiolch i Helen o Lyfrgell Rhuddlan am brofi'r 8 taith ac am ei sylwadau gwerthfawr.
Amcangyfrif ydy hyd pob taith.
(1) Addas i Feiciau, ond dylid cymryd gofal oherwydd y lonydd cul.
(2) Addas i Feiciau a Chadeiriau Olwyn.
(3) Addas i Feiciau a Chadeiriau Olwyn, os wnewch chi osgoi Twtil.
Taith 1. Crwydro Lonydd Hynafol Rhuddlan.(5.6 – 6.5 milltir) (1)
Taith 2. Gwarchodfa Natur Rhuddlan.(2 filltir) (2)
Taith 3. Safle'r Ffiniau Sacsonaidd? - Ffos y Dref (2 filltir)
Taith 4. Lôn Pentre (5 milltir)
Taith 5. Rhuddlan Hanesyddol a'r Afon Clwyd (5 milltir)
Taith 6. Rhuddlan Hanesyddol ac Aber Afon Clwyd (7 milltir)
Taith 7. Rhuddlan Hanesyddol.(2 filltir) (3)
Taith 8. Rhuddlan Hanesyddol, yr Afon Clwyd a Gwarchodfa Natur y Brickfields. (6.5milltir) (2)