Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Taith 2: Gwarchodfa Natur.

Taith 2: Gwarchodfa Natur.

Taith 2: Gwarchodfa Natur.

Disgrifiad:
Mae'r daith gerdded hon yn ymweld â rhai o safleoedd hanesyddol Rhuddlan a Gwarchodfa Natur Rhuddlan gyda golygfeydd o Fryniau Clwyd. Fe all ymweliad â Twtil olygu dringo bryn serth, felly bydd angen cymryd gofal.

Hyd: Oddeutu 2 filltir Neilltuwch oddeutu 1 awr

Gwybodaeth:
Gyda chymorth pobl leol, fe drawsffurfiwyd y tir diffaith yma yn warchodfa natur. Mae wedi denu glas y dorlan, llygod y dŵr, dyfrgwn ac elyrch. Mae'r fan lle'r arferai'r orsaf drenau fod bellach yn rhan o hafan 11 acer i fywyd gwyllt gyda phyllau, coedlannau a dolydd o flodau gwylltion. Ceir cerfluniau o was y neidr ar aden, bilidowcar yn ymestyn ei adenydd a cherddwr yn eistedd ar fainc yn cau carrau’i sgidiau. Ewch am dro, cymrwch bicnic, a mwynhewch y golygfeydd o'n castell trawiadol.

DECHRAU'R DAITH:
Cerddwch yn ôl at fynedfa'r maes parcio; trowch i'r DDE ar COETIAU POSTOL ac at y BRIFFORDD (FFORDD RHYL). Trowch i'r DDE a chroeswch dros y groesfan belican. Trowch i'r DDE ac yna i'r CHWITH ar FFORDD Y TYWYSOG. Daliwch i gerdded ar hyd FFORDD Y TYWYSOG at STRYD Y CASTELL ar y dde.

Gwybodaeth:
Oedwch gyferbyn â Stryd y Castell i edrych ar Gastell Normanaidd Edward 1af a ddechreuwyd ym 1277. Yr adeilad ar y chwith ichi ydy'r Tŷ Gwledda, a oedd o bosib yn elusendy sy'n dyddio o 1672.

Cerddwch ymlaen ar hyd FFORDD Y TYWYSOG a chymryd y troad 1af i FFORDD YR ABATY. Cerddwch rhyw ychydig bach ar hyd FFORDD YR ABATY a chymryd y troad 1af i'r DDE ar LÔN HYLAS. Wrth fynd ar hyd LÔN HYLAS, fe basiwch dŷ brics coch ar y DDE ichi o'r enw 'MONFA'.

Gwybodaeth:
Man Geni Phillip Jones Griffiths 1936 - 2008
Ffotonewyddiadurwr byd-enwog

Daliwch ymlaen ar hyd LÔN HYLAS i basio YSGOL Y CASTELL a THŶ TO GWELLT. Fe welwch arwydd am TWTIL ar y chwith - dyma safle castell tomen a beili a adeiladwyd ym 1073. Mae'n werth ymweld os mai dim ond ar gyfer y golygfeydd yn unig.

Wedi'r arwydd am TWTIL fe welwch GASTELL RHUDDLAN a bwrdd gwybodaeth "Crwydro Rhuddlan". Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Castell Rhuddlan ym 1277, un o gylch o gestyll a adeiladodd Edward 1af i geisio darostwng y Cymry. Yn y GYFFORDD-T tu allan i GASTELL RHUDDLAN, trowch i'r CHWITH ar STRYD Y CASTELL a cherddwch at y STRYD FAWR / CANOL Y DREF gan basio 'YR HEN YSGOL - YR YSGOL GENEDLAETHOL 1829' sydd ar y chwith ichi cyn cyrraedd y Stryd Fawr (edrychwch yn ôl i weld yr arwydd).

Gwybodaeth:
Yn STRYD YR EGLWYS, ar draws y ffordd, mae EGLWYS Y SANTES FAIR a adeiladwyd yn oddeutu 1300. Ewch i mewn trwy'r porth mynwent Fictoraidd. Mae'n werth mynd yno.

CROESWCH y STRYD FAWR a throi i'r CHWITH i lawr yr allt tuag at AFON CLWYD. Ar waelod yr allt ar y dde ichi gwelir 3 Marchog Rhuddlan, gan y cerfluniwr lleol, Mike Owens.

Gwybodaeth:
Maen nhw'n amddiffyn y fynedfa i Rhuddlan ac yn nodi'r fan lle bu gweithwyr lleol yn aros pob bore i gael eu dewis i weithio gan berchnogion ffermydd a busnesau lleol.

Cerddwch at y llwybr troed dros yr Afon Clwyd.

Gwybodaeth:
Ochr yn ochr gwelir y bont garreg hynafol; bu pont o ryw fath yn y lleoliad hwn ers 1277. Mae'r bont bresennol yn dyddio'n ôl i 1595. Mae'r llwybr troed dros yr afon yn caniatáu golygfeydd da o'r Castell, Eglwys y Santes Fair a'r Afon Clwyd.

Daliwch i fynd dros yr AFON CLWYD ac yn syth ymlaen ar hyd FFORDD YR ORSAF at y goleuadau traffig. Ar y CHWITH ichi mae'r WARCHODFA NATUR. CROESWCH y groesfan belican.

Gwybodaeth:
Gyda chymorth pobl leol, fe drawsffurfiwyd y tir diffaith yma yn warchodfa natur. Mae wedi denu glas y dorlan, llygod y dŵr, dyfrgwn ac elyrch. Mae'r fan lle'r arferai'r orsaf drenau fod bellach yn rhan o hafan 11 acer i fywyd gwyllt gyda phyllau, coedlannau a dolydd o flodau gwylltion. Ceir cerfluniau o was y neidr ar aden, bilidowcar yn ymestyn ei adenydd a cherddwr yn eistedd ar fainc yn cau carrau'i sgidiau. Ewch am dro, cymrwch bicnic, a mwynhewch y golygfeydd o'n castell trawiadol.

Wedi ichi orffen yn y WARCHODFA NATUR, dilynwch eich camau'n ôl at yr Afon Clwyd ac at y 3 Marchog. Ewch yn ôl i fyny FFORDD YR ORSAF ac at y STRYD FAWR.

Gwybodaeth:
Ar y dde, hanner ffordd i fyny'r Stryd Fawr, ar gornel Stryd y Senedd, mae'r Senedd-dŷ, gydag arysgrif ar y wal yn nodi Statud Rhuddlan. Dywedir mai dyma weddillion yr adeilad lle pasiodd Edward 1af ‘Statud Rhuddlan' a barodd hyd at Ddeddfau Uno 1536-1542. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol o fod yn lys barn canoloesol gyda rhannau wedi'u cymryd o'r castell.

Crwydrwch i fyny'r STRYD FAWR i ganol RHUDDLAN, gan basio siopau, caffis a thafarndai. Ymlaciwch a mwynhewch ychydig o luniaeth. Daliwch ymlaen trwy'r dref er mwyn dychwelyd at ddechrau'r daith - trowch i'r CHWITH ar COETIAU POSTOL ac yna i'r CHWITH i faes parcio'r llyfrgell.
Gobeithio ichi fwynhau eich taith - mae croeso ichi adael eich sylwadau.