Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Taith 3: Safle'r Ffiniau Sacsonaidd? – Ffos y Dref.

Taith 3: Safle'r Ffiniau Sacsonaidd? – Ffos y Dref.

Taith 3: Safle'r Ffiniau Sacsonaidd? – Ffos y Dref.

Disgrifiad:
Golygfeydd bendigedig o Fryniau Clwyd a'r Dyffryn. Byddwch yn cerdded ar bafin, lonydd a chaeau. Bydd hyn yn golygu croesi ambell gamfa ac fe all fod yn fwdlyd ar adegau. Os byddwch yn ymweld â Twtil, mae'n ddringfa serth, felly cymerwch ofal.

Hyd: Oddeutu 2 filltir Neilltuwch oddeutu 1 awr

DECHRAU'R DAITH:
Cerddwch yn ôl at fynedfa'r maes parcio; trowch i'r DDE ar COETIAU POSTOL ac at y BRIFFORDD (FFORDD RHYL). Trowch i'r DDE a chroeswch y groesfan belican. Trowch i'r DDE ac yna i'r CHWITH ar FFORDD Y TYWYSOG. Daliwch i gerdded ar hyd FFORDD Y TYWYSOG at STRYD Y CASTELL ar y dde.

Gwybodaeth:
Oedwch gyferbyn â Stryd y Castell i edrych ar Gastell Normanaidd Edward 1af a ddechreuwyd ym 1277. Yr adeilad ar y chwith ichi ydy'r Tŷ Gwledda, a oedd o bosib yn elusendy sy'n dyddio o 1672.

Cerddwch ymlaen ar hyd FFORDD Y TYWYSOG a chymryd y troad 1af ar y DDE I FFORDD YR ABATY. Cerddwch ar hyd FFORDD YR ABATY, gan basio maes carafanau ar y dde a daliwch ymlaen hyd nes ichi gyrraedd FFERM YR ABBEY ar y chwith.

Gwybodaeth:
Sefydlodd Llywelyn ap Gruffydd frodordy Dominicanaidd yma rhywbryd cyn 1258. Fe'i diddymwyd yn ystod y Diwygiad Protestannaidd ac yn ddiweddarach daeth i fod yn Fferm yr Abbey. Mae'r fferm yn breifat, ond o'r giât gellir gweld delw o'r 14eg ganrif wedi'i osod yn wal yr adeilad pellaf. Gerllaw mae gweddillion ffos canoloesol y dref a fu’n amddiffynfa i’r brodordy. Fe fyddwch yn cerdded rhan o ffos y dref yn ddiweddarach ar y daith.

Ewch yn ôl i'r arwydd llwybr cyhoeddus cyntaf ar y dde ichi (ger y polyn telegraff). Ewch dros y gamfa a chroesi 2 gae a thros trydedd camfa yn y gwrych. Trowch i'r chwith i ddilyn y llwybr trwy'r bwlch a dilyn rhesi'r coed sy'n nodi'r Hen Lwybr Sacsonaidd / Ffos y Dref (gall fod yn fwdlyd), gan basio trwy giât mochyn ac at y ffordd (Ffordd Dyserth).

Gwybodaeth:
Yma fe welwch chi fwrdd gwybodaeth ar y DDE ichi yn rhoi manylion 'SAFLE'R RHUDDLAN SACSONAIDD’.

Trowch i'r CHWITH ar hyd FFORDD DYSERTH am oddeutu 500 metr hyd nes eich ichi gyrraedd FFORDD YR ABATY ar y CHWITH ichi. (Os byddwch wedi cyrraedd Stryd y Castell ar eich chwith, rydych wedi dod yn rhy bell. Ewch yn ôl). Cerddwch rhyw ychydig bach ar hyd FFORDD YR ABATY a chymryd y troad 1af i'r DDE ar LÔN HYLAS. Wrth fynd ar hyd LÔN HYLAS, fe basiwch dŷ brics coch ar y DDE ichi o’r enw ‘MONFA’.

Gwybodaeth:
Man Geni Phillip Jones Griffiths 1936 - 2008
Ffotonewyddiadurwr byd-enwog

Daliwch ymlaen ar hyd LÔN HYLAS i basio YSGOL Y CASTELL a THŶ TO GWELLT. Fe welwch arwydd am TWTIL ar y chwith - dyma safle castell tomen a beili a adeiladwyd ym 1073. Mae'n werth ymweld os mai dim ond ar gyfer y golygfeydd yn unig.

Wedi'r arwydd am TWTIL fe welwch GASTELL RHUDDLAN a hysbyfwrdd "Crwydro Rhuddlan". Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Castell Rhuddlan ym 1277, un o gylch o gestyll a adeiladodd Edward 1af i geisio darostwng y Cymry. Yn y GYFFORDD-T tu allan i GASTELL RHUDDLAN, trowch i'r CHWITH ar STRYD Y CASTELL a cherddwch at y STRYD FAWR / CANOL Y DREF gan basio ' YR HEN YSGOL - YR YSGOL GENEDLAETHOL 1829' sydd ar y chwith ichi cyn cyrraedd y Stryd Fawr (edrychwch yn ôl i weld yr arwydd).

Gwybodaeth:
Yn STRYD YR EGLWYS, ar draws y ffordd, mae EGLWYS Y SANTES FAIR a adeiladwyd yn oddeutu 1300. Ewch i mewn trwy'r porth mynwent Fictoraidd. Mae'n werth mynd yno. Ar y dde, hanner ffordd i fyny'r Stryd Fawr, ar gornel Stryd y Senedd, mae'r Senedd-dŷ, gydag arysgrif ar y wal yn nodi Statud Rhuddlan. Dywedir mai dyma weddillion yr adeilad lle pasiodd Edward 1af ‘Statud Rhuddlan' a barodd hyd at Ddeddfau Uno 1536-1542. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol o fod yn lys barn canoloesol gyda rhannau wedi'u cymryd o'r castell.

Crwydrwch i fyny'r STRYD FAWR i ganol RHUDDLAN, gan basio siopau, caffis a thafarndai. Ymlaciwch a mwynhewch ychydig o luniaeth.
Daliwch ymlaen trwy'r dref er mwyn dychwelyd at ddechrau'r daith - trowch i'r CHWITH ar COETIAU POSTOL ac yna i'r CHWITH i faes parcio'r llyfrgell.
Gobeithio ichi fwynhau eich taith - mae croeso ichi adael eich sylwadau.