Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Taith 4: Lôn Pentre.

Taith 4: Lôn Pentre.

Taith 4: Lôn Pentre.
Disgrifiad:
Byddwch yn cerdded ar bafin, lonydd a chaeau. Bydd hyn yn golygu croesi ambell gamfa ac fe all fod yn fwdlyd ar adegau. Os byddwch yn ymweld â Twtil, mae'n ddringfa serth, felly cymerwch ofal.

Hyd: Oddeutu 5 milltir : Neilltuwch oddeutu 2 awr a hanner

DECHRAU'R DAITH:
Cerddwch yn ôl at fynedfa'r maes parcio, trowch i'r DDE ar COETIAU POSTOL, ac ar y diwedd trowch i'r CHWITH ar hyd FFORDD RHYL (y BRIFFORDD). Cerddwch i ffwrdd o ganol y dref gan basio garej ar y CHWITH ichi hyd nes cyrraedd cylchdro ar ddiwedd y ffordd.
Trowch i'r CHWITH ar gyrraedd y cylchdro ac yna croesi'r ffordd a chario ymlaen tuag at Y RHYL am oddeutu 200 metr.Cymerwch y troad 1af i'r DDE i LÔN PENTRE.

Cerddwch i lawr LÔN PENTRE heibio'r tai a dros nant fechan ac ymlaen i basio FFERM PENTRE ar y DDE ichi. Cerddwch ymlaen ar hyd y fordd sy'n gwyro tua'r chwith, dros nant a heibio pwll. Pasiwch dros nant arall hyd nes ichi ddod at GYFFORDD-T (sydd â llwybr mynediad at BRYN Y WAL ar y chwith ichi) ar ben yr allt.

Trowch i'r CHWITH a pharhau ar hyd y llwybr mynediad at BRYN Y WAL, gan anwybyddu'r arwydd llwybr troed 1af ar y dde ichi. Pasiwch heibio i'r tŷ ar ddiwedd y lôn a dal i fynd yn syth gan gerdded ar hyd llwybr gyda gwrych ar y ddwy ochr iddo. Cymerwch y llwybr troed nesaf ar y DDE ichi, wedi'i arwyddo PWLL Y BRICKFIELD.
Cadwch y terfyn ar y DDE ichi hyd nes ichi gyrraedd pen y cae sydd wedi'i rannu gan stribed o laswellt. Yma trowch i'r CHWITH a pharhau tuag at dŷ mawr (Plas Lorna) sydd â cheiliog gwynt ar un o’r toeau.
Ewch trwy giât mochyn a cherdded i'r CHWITH i lawr y BRIFFORDD. Croeswch y ffordd gan defnyddio'r groesfan ar waelod y rhodfa ac yna troi i'r CHWITH i fynd ar hyd y pafin sy'n gogwyddo o dan lefel y ffordd. Cerddwch hyd nes ichi gyrraedd y cylchdro a dilynwch y pafin wrth iddo droi i'r DDE. Wedi ychydig o fetrau croeswch FFORDD RHYL a throi i'r CHWITh ac yna i'r DDE ar hyd yr A5151, FFORDD NEWYDD, tuag at DDISERTH, gan basio heibio'r fynwent ar y DDE ichi.
Cymerwch y troad 1af ar y DDE i RODFA BODRHYDDAN ac yna troi i'r CHWITH a dal ymlaen i gerdded hyd nes ddowch chi at LWYBR SEICLO / CERDDED ar y CHWITH ichi. Trowch i'r CHIWTH ar y LLWYBR SEICLO / CERDDED a chroesi'r ffordd tuag at ARWYDD FFORDD DISERTH. Trowch i'r DDE tuag at dai. Wedi pasio'r arwydd cyflymder 30 milltir yr awr fe welir bwrdd gwybodaeth yn sôn am 'SAFLE'R RHUDDLAN SACSONAIDD' (gweler Taith Gerdded Rhif 3 yn ein cyfres). O'r bwrdd gwybodaeth hwn cadwch ar y pafin OCHR CHWITH a cherdded ar hyd FFORDD DISERTH am oddeutu 500 metr hyd nes ichi gyrraedd FFORDD YR ABATY (mae'r arwydd am FFORDD YR ABATY tu ôl ichi ar y gornel chwith). Os byddwch wedi cyrraedd Stryd y Castell ar eich chwith, rydych wedi dod yn rhy bell. Ewch yn ôl.
Cerddwch rhyw ychydig bach ar hyd FFORDD YR ABATY a chymryd y troad 1af i'r DDE ar LÔN HYLAS. Wrth fynd ar hyd LÔN HYLAS, fe basiwch dŷ brics coch ar y DDE ichi o'r enw 'MONFA'.
Gwybodaeth:
Man Geni Phillip Jones Griffiths 1936 – 2008
Ffotonewyddiadurwr byd – enwog

Daliwch ymlaen ar hyd LÔN HYLAS i basio YSGOL Y CASTELL a THŶ TO GWELLT. Fe welwch arwydd am TWTIL ar y chwith - dyma safle castell tomen a beili a adeiladwyd ym 1073. Mae'n werth ymweld os mai dim ond ar gyfer y golygfeydd yn unig.

Wedi'r arwydd am TWTIL fe welwch GASTELL RHUDDLAN a hysbyfwrdd "Crwydro Rhuddlan". Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Castell Rhuddlan ym 1277, un o gylch o gestyll a adeiladodd Edward 1af i geisio darostwng y Cymry. Yn y GYFFORDD-T tu allan i GASTELL RHUDDLAN, trowch i'r CHWITH ar STRYD Y CASTELL a cherddwch at y STRYD FAWR / CANOL Y DREF gan basio ' YR HEN YSGOL - YR YSGOL GENEDLAETHOL 1829' sydd ar y chwith ichi cyn cyrraedd y Stryd Fawr (edrychwch yn ôl i weld yr arwydd).

Gwybodaeth:
Yn STRYD YR EGLWYS, ar draws y ffordd, mae EGLWYS Y SANTES FAIR a adeiladwyd yn oddeutu 1300. Ewch i mewn trwy'r porth mynwent Fictoraidd. Mae'n werth mynd yno. Ar y dde, hanner ffordd i fyny'r Stryd Fawr, ar gornel Stryd y Senedd, mae'r Senedd-dŷ, gydag arysgrif ar y wal yn nodi Statud Rhuddlan. Dywedir mai dyma weddillion yr adeilad lle pasiodd Edward 1af ‘Statud Rhuddlan' a barodd hyd at Ddeddfau Uno 1536-1542. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol o fod yn Lys Barn canoloesol gyda rhannau wedi'u cymryd o'r castell.

Crwydrwch i fyny'r STRYD FAWR i ganol RHUDDLAN, gan basio siopau, caffis a thafarndai. Ymlaciwch a mwynhewch ychydig o luniaeth.
Daliwch ymlaen trwy'r dref er mwyn dychwelyd at ddechrau'r daith - trowch i'r CHWITH ar COETIAU POSTOL ac yna i'r CHWITH i faes parcio'r llyfrgell.
Gobeithio ichi fwynhau eich taith - mae croeso ichi adael eich sylwadau.