Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Taith 5 Rhuddlan Hanesyddol a’r Afon Clwyd.

Taith 5 Rhuddlan Hanesyddol a’r Afon Clwyd.

Taith 5: Rhuddlan Hanesyddol a’r Afon Clwyd.

Disgrifiad:
Mae’r daith hon yn ymweld â rhai o safleoedd hanesyddol Rhuddlan, gyda golygfeydd o Fryniau Clwyd ac o ddiddordeb arbennig i adarwyr, yn enwedig ar hyd glannau’r afon Clwyd. Mae’n golygu cerdded ar bafin, ffyrdd, croesi camfeydd a chaeau, sy’n gallu bod yn fwdlyd iawn ar adegau. Os byddwch yn ymweld â Twtil, mae'n ddringfa serth, felly cymerwch ofal.

Hyd: Oddeutu 5 milltir: Neilltuwch oddeutu 2 awr a hanner

DECHRAU’R DAITH:
Cerddwch yn ôl at fynedfa'r maes parcio; trowch i'r DDE ar COETIAU POSTOL ac at y BRIFFORDD (FFORDD RHYL). Trowch i'r DDE a chroeswch y groesfan belican. Trowch i'r DDE ac yna i'r CHWITH ar FFORDD Y TYWYSOG. Daliwch i gerdded ar hyd FFORDD Y TYWYSOG at STRYD Y CASTELL ar y dde.

Gwybodaeth:
Oedwch gyferbyn â Stryd y Castell i edrych ar Gastell Normanaidd Edward 1af a ddechreuwyd ym 1277. Yr adeilad ar y chwith ichi ydy'r Tŷ Gwledda, a oedd o bosib yn elusendy sy'n dyddio o 1672.
Cerddwch ymlaen ar hyd FFORDD Y TYWYSOG a chymryd y troad 1af i FFORDD YR ABATY. Cerddwch rhyw ychydig bach ar hyd FFORDD YR ABATY a chymryd y troad 1af i'r DDE ar LÔN HYLAS. Wrth fynd ar hyd LÔN HYLAS, fe basiwch dŷ brics coch ar y DDE ichi o'r enw 'MONFA'.

Gwybodaeth:
Man Geni Phillip Jones Griffiths 1936 - 2008
Ffotonewyddiadurwr byd-enwog

Daliwch ymlaen ar hyd LÔN HYLAS i basio YSGOL Y CASTELL a THŶ TO GWELLT. Fe welwch arwydd am TWTIL ar y chwith - dyma safle castell tomen a beili a adeiladwyd ym 1073. Mae'n werth ymweld os mai dim ond ar gyfer y golygfeydd yn unig.

Wedi'r arwydd am TWTIL fe welwch GASTELL RHUDDLAN a bwrdd gwybodaeth "Crwydro Rhuddlan". Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Castell Rhuddlan ym 1277, un o gylch o gestyll a adeiladodd Edward 1af i geisio darostwng y Cymry. Yn y GYFFORDD-T tu allan i GASTELL RHUDDLAN, trowch i'r CHWITH ar STRYD Y CASTELL a cherddwch at y STRYD FAWR / CANOL Y DREF gan basio 'YR HEN YSGOL - YR YSGOL GENEDLAETHOL 1829' sydd ar y chwith ichi cyn cyrraedd y Stryd Fawr (edrychwch yn ôl i weld yr arwydd).

Gwybodaeth:
Yn STRYD YR EGLWYS, ar draws y ffordd, mae EGLWYS Y SANTES FAIR a adeiladwyd yn oddeutu 1300. Ewch i mewn trwy'r porth mynwent Fictoraidd. Mae'n werth mynd yno.

CROESWCH y STRYD FAWR a throi i'r CHWITH i lawr yr allt tuag at AFON CLWYD. Ar waelod yr allt ar y dde ichi gwelir 3 Marchog Rhuddlan, gan y cerfluniwr lleol, Mike Owens.

Gwybodaeth:
Maen nhw'n amddiffyn y fynedfa i Rhuddlan ac yn nodi'r fan lle bu gweithwyr lleol yn aros pob bore i gael eu dewis i weithio gan berchnogion ffermydd a busnesau lleol.

Cerddwch at y llwybr troed dros yr Afon Clwyd.

Gwybodaeth:
Ochr yn ochr gwelir y bont garreg hynafol; bu pont o ryw fath yn y lleoliad hwn ers 1277. Mae'r bont bresennol yn dyddio'n ôl i 1595. Mae'r llwybr troed dros yr afon yn caniatáu golygfeydd da o'r Castell, Eglwys y Santes Fair a'r Afon Clwyd.

DYCHWELWCH o’r bont at y ffordd a throi i’r CHWITH i FFORDD TAN YR EGLWYS, gan basio yng nghysgod Eglwys y Santes Fair. Pan fydd y lôn yn dechrau troi i fyny i’r dde, EWCH CHI I’R CHWITH tuag at yr afon (wedi’i arwyddo RHYL 84). Cadwch ar y llwybr CHWITH ac ewch trwy rwystr cam a phasio o dan ffordd osgoi yr A525.

Gwybodaeth:
Cadwch olwg allan am elyrch, crehyrod, gwyddau Canada, bilidowcars, piod y môr, gwylanod a môr-wenoliaid. Mae llawysgrifau hanesyddol yn cofnodi brwydr fawr yma yn 795/796, pan laddwyd Caradog, Tywysog Gwynedd a llu o’i filwyr gan luoedd Offa, Brenin Mersia a dywedir i laweroedd foddi yn y llanw wrth geisio dianc.

Cerddwch ymlaen ar hyd y llwybr troed uwchlaw'r Afon Clwyd tuag at Y Rhyl a’r môr, gan basio trwy 5 giât. Mae’r llwybr wedyn yn gwyro i’r dde, oddi wrth yr afon ac yna’r troi i’r chwith. Pan gyrhaeddwch gyffordd llwybr gyda chyfeirbwynt sy’n arwain i lawr heibio rhwystr cam ger maes carafanau, dilynwch hwnnw i’r DDE tuag at Bwll y Brickfields / Coleg. Daliwch ymlaen ar hyd y llwybr hwn gyda’r maes carafanau ar y CHWITH ichi, hyd at ei diwedd. Trowch i’r DDE ar hyd ffordd wledig gan BASIO mynediad i fferm ar yr ochr DDE.

Gwybodaeth:
O’ch blaen ar y chwith fe geir golygfeydd o Fryniau Clwyd.

Cerddwch ymlaen hyd nes i’r ffordd droi i’r chwith gydag arwydd clwb carafanau ar y dde ichi ac arwydd ‘Dim Ffordd Ymlaen’ o’ch blaen. Ewch yn syth yn eich blaen ar hyd y lôn ‘Dim Ffordd Ymlaen’ i gyrraedd llwybr glaswellt (lle mae’r ffordd yn cymryd tro sydyn i’r chwith ar hyd rhodfa breifat). Daliwch i fynd ar hyd y llwybr glaswellt a fydd yn troi’n sydyn i’r chwith ac yn pasio ‘Is-orsaf Nwy’ ar y dde ichi. Daliwch ymlaen ar hyd y llwybr i fynd trwy giât ac yna dros gamfa ar y DDE. Ewch ar hyd llwybr mynediad i fferm at y diwedd a thrwy giât ar y DDE (sydd â bar llaw) at lwybr wedi’i ffensio.

Cerddwch ar hyd y llwybr hyd nes ichi gyrraedd 2 giât. Ewch trwy’r giât ar y CHWITH a cherdded at y gamfa yn y pen draw. Ewch dros y gamfa a throi i’r CHWITH i ddilyn ffens o amgylch cae wrth iddo droi tua’r dde i fynd trwy’r giât o’ch blaen (sydd fel arfer ar agor). Cerddwch YN SYTH ymlaen at y clawdd 10 metr o’ch blaen a throi i’r DDE i gerdded ar hyd y clawdd i gyrraedd camfa.

Croeswch y gamfa a throi i’r CHWITH a cherdded yn ôl ar hyd llwybr glannau’r Afon Clwyd at ben draw’r llwybr. Trowch i’r DDE ar y ffordd a cherdded i fyny’r allt ar y CHWITH tuag at ganol y dref. Dilynwch y ffordd hon am ychydig sy’n newid cyn bo hir yn STRYD YR EGLWYS. Trowch i’r DDE i STRYD YR EGLWYS.

Gwybodaeth:
Yn Stryd yr Eglwys ar y chwith fe welwch borth bwaog; mae’r porth hwn yn arwain at lwybr a elwir ‘Citch Catch’ ac sy’n dyddio o’r 1900au. Roedd yn arfer bod yn lwybr cyfleus i drigolion Stryd y Gwindy at bwmp dŵr croyw a fu gyferbyn. Daliwch ymlaen a fe fyddwch yn pasio heibio Eglwys y Santes Fair a adeiladwyd oddeutu 1300. Mae’n werth taro i mewn i gael golwg.

Cerddwch at ben draw STRYD YR EGLWYS a throi i’r CHWITH i’r STRYD FAWR.

Gwybodaeth:
Ar y dde, hanner ffordd i fyny'r Stryd Fawr, ar gornel Stryd y Senedd, mae'r Senedd-dŷ, gydag arysgrif ar y wal yn nodi Statud Rhuddlan. Dywedir mai dyma weddillion yr adeilad lle pasiodd Edward 1af ‘Statud Rhuddlan' a barodd hyd at Ddeddfau Uno 1536-1542. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol o fod yn lys barn canoloesol gyda rhannau wedi'u cymryd o'r castell.

Crwydrwch i fyny'r STRYD FAWR i ganol RHUDDLAN, gan basio siopau, caffis a thafarndai. Ymlaciwch a mwynhewch ychydig o luniaeth.
Daliwch ymlaen trwy'r dref er mwyn dychwelyd at ddechrau'r daith - trowch i'r CHWITH ar COETIAU POSTOL ac yna i'r CHWITH i faes parcio'r llyfrgell.
Gobeithio ichi fwynhau eich taith - mae croeso ichi adael eich sylwadau.