
Taith 6: Rhuddlan Hanesyddol ac Aber yr Afon Clwyd.
Disgrifiad:
Mae’r daith hon yn ymweld â rhai o safleoedd hanesyddol Rhuddlan, gyda golygfeydd o Fryniau Clwyd ac o ddiddordeb arbennig i adarwyr, yn enwedig ar hyd glannau’r afon Clwyd. Mae’n golygu cerdded ar bafin, ffyrdd, croesi camfeydd a chaeau, sy’n gallu bod yn fwdlyd iawn ar adegau. Os byddwch yn ymweld â Twtil, mae'n ddringfa serth, felly cymerwch ofal.
Hyd: Oddeutu 7 milltir: Neilltuwch oddeutu 3 awr
Dechrau’r daith: Maes parcio Llyfrgell Rhuddlan. Efallai y bydd angen talu i ddefnyddio'r maes parcio hwn. Dewis arall ydy parcio ar y strydoedd cyfagos.
Cyfarwyddiadau i gyrraedd Llyfrgell Rhuddlan: Wrth gyrraedd Rhuddlan o gyfeiriad Prestatyn, ewch ar hyd FFORDD RHYL a chyn y groesfan belican, trowch i'r DDE ar hyd COETIAU POSTOL. Mae maes parcio'r Llyfrgell ar y CHWITH ymhen rhyw ddau gan llath.
DECHRAU’R DAITH:
Cerddwch yn ôl at fynedfa'r maes parcio; trowch i'r DDE ar COETIAU POSTOL ac at y BRIFFORDD (FFORDD RHYL). Trowch i'r DDE a chroeswch y groesfan belican. Trowch i'r DDE ac yna i'r CHWITH ar FFORDD Y TYWYSOG. Daliwch i gerdded ar hyd FFORDD Y TYWYSOG at STRYD Y CASTELL ar y dde.
Gwybodaeth:
Oedwch gyferbyn â Stryd y Castell i edrych ar Gastell Normanaidd Edward 1af a ddechreuwyd ym 1277. Yr adeilad ar y chwith ichi ydy'r Tŷ Gwledda, a oedd o bosib yn elusendy sy'n dyddio o 1672.
5e65s3Cerddwch ymlaen ar hyd FFORDD Y TYWYSOG a chymryd y troad 1af i FFORDD YR ABATY. Cerddwch rhyw ychydig bach ar hyd FFORDD YR ABATY a chymryd y troad 1af i'r DDE ar LÔN HYLAS. Wrth fynd ar hyd LÔN HYLAS, fe basiwch dŷ brics coch ar y DDE ichi o'r enw 'MONFA'.
Gwybodaeth:
Man Geni Phillip Jones Griffiths 1936 - 2008
Ffotonewyddiadurwr byd-enwog
Daliwch ymlaen ar hyd LÔN HYLAS i basio YSGOL Y CASTELL a THŶ TO GWELLT. Fe welwch arwydd am TWTIL ar y chwith - dyma safle castell tomen a beili a adeiladwyd ym 1073. Mae'n werth ymweld os mai dim ond ar gyfer y golygfeydd yn unig.
Wedi'r arwydd am TWTIL fe welwch GASTELL RHUDDLAN a bwrdd gwybodaeth "Crwydro Rhuddlan". Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Castell Rhuddlan ym 1277, un o gylch o gestyll a adeiladodd Edward 1af i geisio darostwng y Cymry. Yn y GYFFORDD-T tu allan i GASTELL RHUDDLAN, trowch i'r CHWITH ar STRYD Y CASTELL a cherddwch at y STRYD FAWR / CANOL Y DREF gan basio 'YR HEN YSGOL - YR YSGOL GENEDLAETHOL 1829' sydd ar y chwith ichi cyn cyrraedd y Stryd Fawr (edrychwch yn ôl i weld yr arwydd).
Gwybodaeth:
Yn STRYD YR EGLWYS, ar draws y ffordd, mae EGLWYS Y SANTES FAIR a adeiladwyd yn oddeutu 1300. Ewch i mewn trwy'r porth mynwent Fictoraidd. Mae'n werth mynd yno.
CROESWCH y STRYD FAWR a throi i'r CHWITH i lawr yr allt tuag at AFON CLWYD. Ar waelod yr allt ar y dde ichi gwelir 3 Marchog Rhuddlan, gan y cerfluniwr lleol, Mike Owens.
Gwybodaeth:
Maen nhw'n amddiffyn y fynedfa i Rhuddlan ac yn nodi'r fan lle bu gweithwyr lleol yn aros pob bore i gael eu dewis i weithio gan berchnogion ffermydd a busnesau lleol.
Cerddwch at y llwybr troed dros yr Afon Clwyd.
Gwybodaeth:
Ochr yn ochr gwelir y bont garreg hynafol; bu pont o ryw fath yn y lleoliad hwn ers 1277. Mae'r bont bresennol yn dyddio'n ôl i 1595. Mae'r llwybr troed dros yr afon yn caniatáu golygfeydd da o'r Castell, Eglwys y Santes Fair a'r Afon Clwyd.
DYCHWELWCH o’r bont at y ffordd a throi i’r CHWITH i FFORDD TAN YR EGLWYS, gan basio yng nghysgod Eglwys y Santes Fair. Pan fydd y lôn yn dechrau troi i fyny i’r dde, EWCH CHI I’R CHWITH tuag at yr afon (wedi’i arwyddo RHYL 84). Cadwch ar y llwybr CHWITH ac ewch trwy rwystr cam a phasio o dan ffordd osgoi'r A525.
Gwybodaeth:
Cadwch olwg allan am elyrch, crehyrod, gwyddau Canada, bilidowcars, piod y môr, gwylanod a môr-wenoliaid. Mae llawysgrifau hanesyddol yn cofnodi brwydr fawr yma yn 795/796, pan laddwyd Caradog, Tywysog Gwynedd a llu o’i filwyr gan luoedd Offa, Brenin Mersia a dywedir i laweroedd foddi yn y llanw wrth geisio dianc.
Cerddwch ymlaen ar hyd y llwybr troed uwchlaw'r Afon Clwyd tuag at Y Rhyl a’r môr, gan basio trwy 5 giât. Mae’r llwybr wedyn yn gwyro i’r dde, oddi wrth yr afon ac yna’r troi i’r chwith. ANWYBYDDWCH gyffordd llwybr sy’n gwyro i lawr i’r dde trwy rwystr cam ger y maes carafanau gyda chyfeirbwynt tuag at Bwll y Brickfields / Coleg. Yn lle hynny, ewch yn syth ymlaen, gan gadw’r maes carafanau ar y DDE ichi. Ewch trwy giât hyd nes ichi gyrraedd bwrdd gwybodaeth ar y CHWITH ichi ac arwydd cyfeirbwynt o’ch blaen.
Trowch i’r CHWITH tuag at Goetir Glan Morfa a dilyn y llwybr sy’n arwain at lan yr afon eto. Dyma le da i wylio adar. Cadwch ar y CHWITH ar gyffordd y llwybr i ddilyn y llwybr tuag at yr afon a phont y rheilffordd/y môr a pharhau ar ei hyd wrth iddo droi oddi wrth yr afon a draw at giât mochyn. Ewch trwy’r giât mochyn a thros y llwybr troed ar y CHWITH ichi sy’n croesi’r brif reilffordd a throwch i’r CHWITH ar hyd ffordd.
Pan gyrhaeddwch yr ail groesffordd, trowch i’r CHWITH tuag at y Llyn Morol (Marine Lake). Gwyrwch i’r DDE, gan gadw’r Llyn Morol ar y CHWITH ichi a cherddwch tuag at y briffordd. Rhybudd GWYLIWCH rhag y trên bach. Wrth gyrraedd y briffordd, trowch i’r CHWITH tuag at Bont y Foryd (y Bont Las). Croeswch y Bont Las gan gadw at yr ochr CHWITH.
Cymerwch y ffordd gyntaf ar y CHWITH - Hen Ffordd y Foryd - sy’n pasio trwy stad o dai cyn arwain at Glawdd Clwyd. Dilynwch hon gan basio o dan y rheilffordd a throwch ar eich union i’r CHWITH i fyny llwybr i fynd dros gamfa. Dilynwch yr arglawdd (neu’r Cob) atal llifogydd yn ôl tuag at Ruddlan gyda golygfeydd da o’r Castell, Eglwys y Santes Fair, Bryniau Clwyd a’r Afon Clwyd hithau. Ar ben draw’r llwybr croeswch y gamfa.
Mae maes carafanau ar y CHWITH ichi. Daliwch ymlaen ar hyd y ffordd gan basio o dan ffordd osgoi'r A525 i gyrraedd cyffordd â goleuadau traffig. Trowch i’r CHWITH wrth y goleuadau. Croeswch y llwybr troed dros yr Afon Clwyd ochr yn ochr â’r bont garreg hynafol.
Gwybodaeth:
Yma ceir golygfeydd bendigedig o’r Castell. Cyfle da i dynnu lluniau.
Ewch ymlaen heibio i’r 3 marchog a cherddwch i fyny FFORDD YR ORSAF ac at y STRYD FAWR.
Gwybodaeth: Ar y dde, hanner ffordd i fyny'r Stryd Fawr, ar gornel Stryd y Senedd, mae'r Senedd-dŷ, gydag arysgrif ar y wal yn nodi Statud Rhuddlan. Dywedir mai dyma weddillion yr adeilad lle pasiodd Edward 1af ‘Statud Rhuddlan' a barodd hyd at Ddeddfau Uno 1536-1542. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol o fod yn lys barn canoloesol gyda rhannau wedi'u cymryd o'r castell.
Crwydrwch i fyny'r STRYD FAWR i ganol RHUDDLAN, gan basio siopau, caffis a thafarndai. Ymlaciwch a mwynhewch ychydig o luniaeth.
Daliwch ymlaen trwy'r dref er mwyn dychwelyd at ddechrau'r daith - trowch i'r CHWITH ar COETIAU POSTOL ac yna i'r CHWITH i faes parcio'r llyfrgell.
Gobeithio ichi fwynhau eich taith - mae croeso ichi adael eich sylwadau.