
Roedd glo yn cael ei gloddio o Fostyn yn ystod teyrnasiad Edward I pan roedd cychod yn mynd glo a deunyddiau eraill yn rheolaidd oddi yma i Gonwy, Caernarfon a Biwmares.
Hyd nes i'r rheilffordd agor ym 1848 roedd cludo dŵr yn hanfodol oherwydd gallai ceffylau gario llwythi bychan yn unig.
Ni newidiodd dulliau mwyngloddio rhyw lawer mewn 100 mlynedd. Roedd mwyngloddio â llaw yn golygu bod y glo a ddygwyd allan yn lympiau mawr, yn ddelfrydol ar gyfer gwresogi domestig a diwydiannol megis injans stêm ond fel newidiodd y galw am lo newidwyd hefyd y dull o gloddio, gyda wyneb y go yn cynyddu o 12 troedfedd o led i dros 100 llath o hyd.
Pan agorodd bwerdy Cei Conna yn 1954 roedd angen darnau llawer llai o lo neu lo mân iawn. Roedd tua 10,000 o dunelli metrig o lo yn cael eu cynhyrchu’n wythnosol, a'i gario'n bennaf ar y rheilffordd i mewn i gilffyrdd oedd yn arwain i'r wagenni glo. Caewyd yr orsaf bŵer glo ym 1984, gyda gorsaf bŵer nwy gyda nwy oedd yn cael ei gynhyrchu yn Y Parlwr Du yn cymryd ei le.